Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)
Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)Salary: £37694.00
Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).
Y Rôl
Bydd y Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus yn rhan o'r tîm Marchnata, Cyfathrebu a Phartneriaethau yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Bydd yn cefnogi ymgysylltiad Y Brifysgol Agored yng Nghymru â gwleidyddion, gwneuthurwyr polisi a rheoleiddwyr ar drobwynt i addysg uwch yng Nghymru yn dilyn etholiad 2026 y Senedd ac wrth i system reoleiddio newydd Medr gael ei hymgorffori.
Gan adrodd i'r Uwch-reolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, bydd y rôl yn canolbwyntio ar gefnogi a chyflawni ymgysylltiad gwleidyddol, monitro a dadansoddi datblygiadau polisi, a helpu i sicrhau bod Y Brifysgol Agored yn weladwy, yn gredadwy ac wedi'i briffio'n dda. Mae'r rôl hon yn cefnogi enw da y Brifysgol fel partner credadwy a dibynadwy yn amgylchedd polisi Cymru.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Monitro a dadansoddi datblygiadau polisi a gwleidyddiaeth sy'n berthnasol i addysg uwch, dysgu gydol oes a sgiliau, o Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill, gan rannu gwybodaeth yn fewnol mewn modd amserol.
- Llunio nodiadau briffio clir, crynodebau a deunyddiau cefndirol i gydweithwyr ac uwch-arweinwyr.
- Helpu gyda'r broses o gydlynu a drafftio ymatebion i ymgyngoriadau, galwadau am dystiolaeth ac adolygiadau polisi.
- Helpu gyda'r broses o ymgysylltu ag Aelodau o'r Senedd, Gweinidogion, cynghorwyr, swyddogion a rhanddeiliaid y sector, gan gynnwys cynnal cofnodion cysylltu ac ymgysylltu cywir.
- Helpu gyda'r gwaith o gynllunio a chyflawni gweithgarwch ymgysylltiad gwleidyddol, gan gynnwys cyfarfodydd, cyfarfodydd bord gron, ymweliadau a digwyddiadau.
- Cyfrannu at y gwaith o gyflawni cynllun materion cyhoeddus y Brifysgol, gan sicrhau y caiff camau dilynol sy'n deillio o weithgarwch ymgysylltiad eu holrhain a'u datblygu.
- Gweithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Brifysgol Agored i gydlynu negeseuon, casglu gwybodaeth a chefnogi prosesau adrodd mewnol.
- Rhoi cymorth ac arweiniad ymarferol i gydweithwyr ar brosesau gwleidyddol a pholisi Cymru.
Amdanoch Chi
Meini prawf hanfodol:
- Profiad o weithio ym maes materion cyhoeddus, polisi, llywodraeth, gwleidyddiaeth neu amgylchedd tebyg sy'n ymdrin â rhanddeiliaid.
- Dealltwriaeth o brosesau gwleidyddol a llunio polisi Cymru, gan gynnwys y Senedd a Llywodraeth Cymru.
- Gallu amlwg i fonitro, dadansoddi a dehongli datblygiadau polisi a gweithgarwch gwleidyddol ac esbonio'r goblygiadau.
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf yn ysgrifenedig, gan gynnwys profiad o lunio briffiau, crynodebau a deunyddiau cefndirol i gynulleidfaoedd mewnol neu uwch-gynulleidfaoedd.
- Profiad o gefnogi ymgysylltiad gwleidyddol neu ymgysylltu â rhanddeiliaid, fel cyfarfodydd, digwyddiadau, ymweliadau neu gyfarfodydd bord gron.
- Y gallu i reoli gwybodaeth rhanddeiliaid, manylion cyswllt a gweithgarwch ymgysylltu yn gywir ac yn systemataidd.
- Bod yn hyderus wrth weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys gwleidyddion, swyddogion a phartneriaid y sector.
- Sgiliau trefnu cryf, gyda'r gallu i reoli nifer o dasgau, olrhain camau a bodloni terfynau amser.
Meini prawf dymunol:
- Profiad o weithio ar bolisi addysg uwch, dysgu gydol oes neu sgiliau.
- Y gallu i weithio yn Gymraeg.
Cymorth gyda'ch cais
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio [email protected] gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.
Noder y gallwch wneud cais yn y Gymraeg ac na fyddai cais Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad hefyd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad.
Beth yw'r buddion i chi?
Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).
Trefniadau Gweithio Hyblyg
Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.
Lleoliad Gweithio: Disgwylir y gellir sefydlu patrwm gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac o'r swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rôl hon wedi'i lleoli yn ôl y contract yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd presenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl i hyn fod hyd at 3 diwrnod yn gweithio gartref a 2 ddiwrnod penodol yn y swyddfa (fel arfer ar ddydd Mercher a dydd Iau). Cefnogir gweithio llawnamser yn ein safle yng Nghaerdydd hefyd os byddai hynny'n well gan yr ymgeisydd. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig â theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.
Bydd angen mynd i ddigwyddiadau yn achlysurol y tu allan i oriau gwaith arferol, a theithio ledled Cymru yn achlysurol, e.e. i gynadleddau pleidiau er mwyn cyflawni'r rôl.
Camau nesaf yn y broses Recriwtio
Yr wythnos yn dechrau 11eg Mai 2026.
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Er y bydd y rhan fwyaf o'r rolau yn parhau ar agor tan y dyddiad cau a hysbysebir, gall ceisiadau gael eu hadolygu yn barhaus. Mewn rhai achosion, gall swyddi gwag gau yn gynharach pe bai nifer digonol o geisiadau addas wedi dod i law ac mae'r effeithiau ar gydraddoldeb wedi cael eu hystyried yn briodol. Bydd yr holl rolau yn parhau i gael eu hysbysebu am o leiaf un wythnos cyn iddynt gael eu cau yn gynnar.
Os ydych wedi dechrau cais neu yn y broses o wneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym yn ymrwymedig i ddeall amgylchiadau unigol ac yn gallu cynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen, gan gynnwys addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:
- CV
- Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i feini prawf hanfodol y rôl hon fel y nodir uchod.
Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.
Recommended Jobs
Calling All Wales Social Workers
Company: LEADERS IN CARE Job Type: Contract, Full Time Salary: £38.43 - £41.56/hour
Geo-environmental Engineer
Graduate Geo-environmental Engineer Cardiff £30,000 - £35,000 (depending on experience) This is a fantastic opportunity for a talented Cardiff based geo-environmental engineer to join a successful m…
Drainage Engineer and Tanker Operator
Drainage Engineers and Tanker Operators wanted We’re excited to announce that Drain Technology (UK) Ltd will be opening a brand-new depot in Cardiff on 2nd April — and we’re now recruiting! As part …
Application Support Engineer
Job Title: Application Support Engineer Location: Cardiff Salary: Up to £29,000 depending on experience LDMS is a fintech software start-up, spinning out of a large multinational group focus…
Commercial Gas Engineer
Commercial Gas Engineer £48k Basic Salary (subject to experience) + Door to Door + NO CALL OUT ROTA + Company Van + Pension + Benefits Location - South Wales Alecto Recruitment Ltd currently have a…
Nurse Prescriber openings
JOB OVERVIEW We are seeking to fill highly motivated and experienced nurse prescribers for our nurse prescriber openings in Cardiff. As a nurse prescriber, you will play a key role in providing hi…
Welsh Speak Secondary Cover Supervisors Cardiff
Company: TRADEWIND RECRUITMENT Job Type: Temporary, Full Time Salary: £100 - £150/day
Neurology Consultant
We have been assigned by one of the UK's more prestigious NHS Trusts to help them recruit a Consultant Neurologist on either a Substantive or an NHS Fixed Term basis for 12 months to join their succes…
Property Administrator
Property Administrator, Cardiff - £26,400 - £27,400pa DOE Our client, an independent Property Management company is looking to recruit a Property Administrator to join their existing team as their …